Ynys Mon

Mae Ynys brydferth Môn yn côstio arfordir Gogledd Cymru ag yn ymfalchio mewn dros 100 milltir o arfordir mawreddog o fewn ardal o bryderthwch naturiol arbennig. Mae arhosiad gyda ni yn Westy’r Auckland yn eich galluogi i ddarganfod yr Ynys a gweddill Gogledd Cymru.

Atyniadau nodedig ydi’r traethau o gwmpas Ynys Môn, o draethau hir ag heb eu difethau fel Niwbwrch a Traeth Coch i’r baeau bychain. Os hoffech ardal sy’n cynnig chwaraeon bywiog, Rhosneigr yw’r traeth i fynd iddo.  Oherwydd ei natur cysgodol mae’t Afon Fenai hefyd yn boblogaidd I bob math o chwaraeon dwr. Ond siwrne deg munud mewn car yw tref hanesyddol Beaumaris o Borthaethwy. Yma gallwch wario diwrnod yn siopa ag archwilio’r castell neu cymeryd trip mewn cwch i wylio’r byd natur o gwmpas Ynys Seiriol neu efallai pysgota.

Os yr ydych yn chwilio am wyliau prysur, mae gan Ynys Môn llawer iawn i gynnig.  Mae digon yma I Golffwyr gyda nifer o feysydd Golff yn cynnwys pedwar maes 18 twll. Mae rhwydwaith anferth o lwybrau ar hyd yr arfordir a’r canoldir yn eich galluogi i ddarganfod amrywiaeth cefn gwlad Ynys Môn – mae llwybyr arfordir Ynys Môn yn pasio drwy Porthaethwy. Mae poblogrwydd darganfod hyfrydwch yr Ynys o gefn beic yn cynyddu a mae gan yr Ynys nifer o ffyrdd Sustrans. Mae gan y gwesty le diogel I gadw beics, offer plymio, caiacs ayb. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â - Island Of Choice.

Print This Page

UK Free Directory - FreeIndex.co.uk