Gartref

Busnes bach teuluol yw Gwesty’r Auckland yng nghanol tref hanesyddol Porthaethwy, Ynys Môn, Gogledd Cymru. Tafliad carreg oddiwrth yr Afon Fenai, lleolir y Gwesty yn un o rhannau fwyaf prydferth Cymru.


Ar lannau yr Afon Fenai yn gysylltiedig i’r tir mawr gan bont grog y Fenai, Porthaethwy yw eich mynedfa i Ynys Môn a thu hwnt. Mae lleoliad ein gwesty yn berffaith i ddarganfod sawl traeth hyfryd yr Ynys neu i fentro i’r canoldir i archwilio Parc Cenedlaethol Eryri, ac i fynd am dro iachus. Gan ei fod yn gysgodol, mae’r Afon Fenai yn ddelfrydol i amrywiaeth o chwaraeon dwr o caiacio i sgwba-blymio a hwylio.


Rydym yn darparu gwely a brecwast o ansawdd uchel am gost cystadleuol. Mae’r bar croesawgar yn arlwyo dewis da o gwrw, amrywiaeth o whisgi a gwinoedd o amgylch y byd. Mae’r ardd a’r teras haul yn le braf i ymlacio ag anghofio am boenau bywyd.


Os yr ydych yn grwp yn chwilio am benwythnos i ffwrdd, cysylltwch â ni I drafod eich anghenion – byddem yn hapus i helpu chi gynllunio a trefnu eich ymweliad ag Ynys Môn. Rydym yn darparu ar gyfer gwyliau Golff a thripiau cymdeithasol gyda gostyngiadau ar gael i gyrsiau ar yr Ynys. Rydym hefyd yn leoliad da i dripiau plymio gan fod gennym le diogel i gadw cwch a safle lansio yn gyfagos

Print This Page

UK Free Directory - FreeIndex.co.uk